Daw gwasanaeth Gweithffyrdd+ i ben ar 31 Gorffennaf 2023. Gweler y dudalen gyswllt am fanylion eich gwasanaeth cymorth cyflogaeth newydd.

Cyflogaeth
Dewch o hyd i gyflogaeth gyda chefnogaeth un i un gan fentor cyflogaeth gofalgar. Mae gan Gweithffyrdd+ dîm o bobl sy’n gweithio’n agos gyda chwmnïau lleol a gallent roi eich enw ymlaen ar gyfer swyddi cyn iddynt gael eu hysbysebu.

Hyfforddiant
Cerdyn adeiladu’r Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu, technegydd ewinedd acrylig, trwydded yrru wagen fforch godi, diogelwch, hylendid bwyd a llawer mwy – a’r cyfan wedi’i ariannu’n llawn! (Cymhwysedd yn berthnasol)

Profiad Gwaith
Dewch i gael profiad gwaith i ddatblygu’ch sgiliau a gwella’ch CV. Efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu talu’ch cyflog wrth i chi ddatblygu!

Gwirfoddoli
Cwrdd â phobl newydd, helpu’r rheini sydd mewn angen a chael profiad a fydd yn creu argraff ar gyflogwyr y dyfodol.