Bernadette yn cael swydd gyda Cando drwy gymorth Gweithffyrdd+ a hithau’n 60 oed!

Mae dechrau eich swydd gyntaf yn gyflawniad mawr a gall fod yn brofiad sy’n gwella’ch bywyd. Roedd hyn yn bendant yn wir i un o breswylwyr Port Talbot, Bernadette Thomas. Yr hyn sy’n gwneud stori Bernadette yn un arbennig yw mai hon oedd ei swydd gyflogedig gyntaf am dros 30 o flynyddoedd, a hithau’n 60 oed.

Ar gyfer llawer o’r blynyddoedd y bu gartref, roedd bywyd Bernadette yn ymwneud â gofalu am ei theulu ac yn y blynyddoedd mwyaf diweddar, gofalu am ei gŵr. Pan fu farw ei gŵr yn 2017, roedd Bernadette mewn sefyllfa lle’r oedd angen cefnogaeth ariannol arni, a bywyd y tu allan i’r cartref.

Dechreuodd hawlio Credyd Cynhwysol a chafodd gymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith. Yno y cafodd wybod am y gwasanaeth cymorth cyflogaeth, Gweithffyrdd+. Mae Gweithffyrdd+ yn helpu pobl ddi-waith wella eu bywydau drwy gymorth cyflogaeth, hyfforddiant sgiliau, gwirfoddoli a phrofiad gwaith. Gan ei bod yn poeni am ei diffyg profiad gwaith a’i diffyg cymwysterau, cysylltodd Bernadette â Gweithffyrdd+, a neilltuwyd mentor iddi sef Rhiannon Collins, i’w helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth. Gweithiodd Rhiannon gyda Bernadette i nodi anghenion hyfforddiant, ei helpu i fagu hyder a datblygu CV. Nesaf, fe’i cyflwynwyd i Lesley Nicolson, Swyddog Cyswllt Cyflogaeth gyda Gweithffyrdd+. Gwaith Lesley yw gweithio’n agos gyda chyflogwyr i’w helpu i gefnogi eu recriwtio drwy gynnig cyfranogwyr Gweithffyrdd+ i’w hystyried a hyrwyddo swyddi gwag drwy Gweithffyrdd+ a sianeli a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol.

Un busnes y mae gan Gweithffyrdd+ berthynas waith wych ag ef yw cwmni o Bort Talbot o’r enw Cando Laundry. Mae Cando Laundry, a sefydlwyd yn 2012, yn fusnes teuluol sydd wedi tyfu’n sylweddol. Hyd yn hyn mae Gweithffyrdd+ wedi helpu 5 o’i gyfranogwyr i sicrhau swyddi gyda Cando.

Drwy weithio gyda Bernadette, roedd Lesley’n credu y byddai’n ychwanegiad gwych at dîm Cando. Pan ddaeth swydd ar gael yn Cando, roedd Lesley wedi cynnig Bernadette ar ei chyfer, gan roi cymorth iddi i baratoi ar gyfer y cyfweliad. Er mawr lawenydd i bawb, roedd Bernadette yn llwyddiannus.

Meddai Bernadette, “Roeddwn i wir yn credu na fyddai gen i unrhyw gyfle i gael swydd a minnau’n 60 oed, heb ddim cymwysterau na phrofiad gwaith diweddar.Roedd Gweithffyrdd+ wedi fy argyhoeddi y gallwn gael swydd. Helpon nhw fi i fagu hyder, gan drefnu cyrsiau hyfforddiant i fi a thalu amdanyn nhw. Drwyddyn nhw, cefais gymwysterau mewn Cymorth Cyntaf, Trafod â Llaw a COSHH. Cyflwynon nhw fi i Cando Laundry a’m helpu i baratoi ar gyfer y cyfweliad. Prin y gallwn gredu fy nghlustiau pan gynigiodd Cando swydd i fi. Mae’n lle gwych i weithio, ac nid incwm yn unig sy’n wych, ond cael y cyfle i fynd mas a chael bywyd cymdeithasol yn y gweithle. Byddwn yn argymell Gweithffyrdd+ i unrhyw un sydd am ddechrau gweithio eto, waeth pa mor aeddfed neu ddibrofiad yr ydych.”

Meddai Daniel Shepherd, Cyfarwyddwr Cando Laundry Services, “Mae Bernadette wedi bod gyda ni bellach am 10 mis ac mae’n aelod gwych o’r tîm. Mae ganddi agwedd gadarnhaol a dyna’r hyn rydym yn chwilio amdano. Rydym wedi gweithio gyda Gweithffyrdd+ am dros flwyddyn ac maen nhw’n bartneriaid gwych. Maen nhw’n cymryd y cyfrifoldeb am lawer o’r gwaith recriwtio, gan gynnwys archwilio hanes pobl i sicrhau ein bod yn cael ymgeiswyr o safon.”

Ariennir a darperir Gweithffyrdd+ gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Dinas Abertawe, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Ceredigion ac fe’i hariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Os hoffech gael cymorth i gael swydd, ffoniwch 01639 684250, e-bostiwch workways@npt.gov.uk neu ewch i www.workways.wales/?lang=cy-gb

Gweithffyrdd+, partner ‘Cando’ ar gyfer Cwmni Golchi Masnachol o Bort Talbot

Mae’r gwasanaethau golchi masnachol arobryn ‘CanDo’ wedi creu perthynas waith ragorol â’r gwasanaeth cymorth cyflogaeth nid er elw, Gweithffyrdd+.

Meddai Daniel Shepherd, cyfarwyddwr Cando Laundry Services, “Rydym wedi gweithio gyda Gweithffyrdd+ am dros flwyddyn ac maen nhw’n rhoi cryn gefnogaeth i ni. Maen nhw’n cymryd y cyfrifoldeb am lawer o’n gwaith recriwtio. Mae ganddynt bobl maent yn eu cefnogi i gael swydd, ac mae llawer ohonynt yn ymgeiswyr posib a fydd yn ymuno â ni wrth i ni dyfu. Gallant hefyd ariannu hyfforddiant i’r bobl maent yn eu cefnogi felly pan fyddant yn ymuno â ni, maent eisoes wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf, trafod â llaw a COSHH, heb i ni orfod talu am hyn. Gall Gweithffyrdd+ hyd yn oed gynnig cyfle gwaith lle gallwch dderbyn gweithiwr newydd am hyd at 16 wythnos a bydd Gweithffyrdd+ yn talu eu cyflog. Mae’n gyfle gwych i ddod i adnabod y person cyn ichi ei gyflogi. Rydym newydd gyflogi aelod o staff gwych ar y sail hon. Mae Gweithffyrdd+ yn bartneriaid gwerthfawr.”

Mae Gweithffyrdd+ a ariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yn gallu helpu pobl i wella’u bywydau drwy gyflogaeth, hyfforddiant sgiliau, profiad gwaith a gwirfoddoli. Os ydych chi’n fusnes sydd am gyflogi, ewch i www.workways.wales/?lang=cy-gb i gael y rhif ffôn ar gyfer eich swyddfa leol.

Darganfyddwch fwy trwy gysylltu â'ch swyddfeydd lleol

Castell Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Abertawe