Cefnogaeth gan Gweithffyrdd+ yn arwain at fam sengl yn cael swydd wych

Roedd Sharon Evans, mam sengl, a oedd yn 41 oed, yn awyddus i ddychwelyd i gyflogaeth eto gan fod ei phlant yn dod yn hŷn. Fel cyn-beiriannydd trosglwyddo yn yr adran gyfathrebu yn y Llynges Frenhinol, roedd bywyd Sharon ar drywydd da. Fodd bynnag, cafodd anaf corfforol o ganlyniad i ddamwain difrifol wrth iddi wasanaethu yn y Llynges Frenhinol. Yn anffodus, yn ystod y cyfnod llawn straen hwn, bu farw mam Sharon.

Gan ei bod wedi gadael y Llynges Frenhinol a chan fod ei phlant yn ddigon hen iddi ddychwelyd i’r gwaith, roedd Sharon yn awyddus i gael swydd. Siaradodd Sharon â’r gwasanaeth cefnogi cyflogaeth, Gweithffyrdd+. Mae Gweithfyrdd+ yn helpu pobl i wella’u bywydau drwy gymorth cyflogaeth, hyfforddiant sgiliau, profiad gwaith a gwirfoddoli.

Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Rhoddodd Gweithffyrdd+ fentor i Sharon, sef Iain Forbes, i weithio gyda hi ar sail ‘un i un’.

Rhoddodd Gweithffyrdd+ Swyddog Cyswllt Cyflogaeth hefyd i Sharon, sef Lesley Nicolson, i’w helpu i benderfynu beth hoffai ei wneud ac i chwilio am swyddi addas. Nododd Lesley gwmni yn Abertawe, Green Hat Consulting, fel cyflogwr posib. Roedd gan Green Hat swydd wag ar gyfer gweinyddwr. Roedd gan Sharon ddiddordeb ynddi a threfnwyd cyfweliad. Trafododd Lesley y swydd ag Ian James, Cyfarwyddwr Green Hat Consulting a threfnodd y byddai Gweithffyrdd+ yn ariannu ‘cyfle gwaith â thâl’ am 16 o wythnosau. Mae cyfle gwaith â thâl yn wasanaeth sy’n fuddiol i’r gweithiwr a’r cyflogwr. Mae gwasanaeth cyfle gwaith â thâl Gweithfyrdd+ yn talu cyflogau’r darpar weithiwr am 16 o wythnosau, sy’n rhoi amser i’r gweithiwr a’r cyflogwr ddod i nabod ei gilydd a phenderfynu a yw’r cyfle’n addas ar gyfer y ddau ohonynt cyn i’r cyflogwr fuddsoddi unrhyw arian.

Roedd cyfweliad Sharon yn llwyddiant ysgubol a chafodd swydd am 16 o wythnosau trwy cyfle gwaith â thâl Gweithffyrdd+. Roedd Ian James wrth ei fodd â gwaith Sharon, a phan ddaeth y cyfle gwaith â thâl i ben, cynigiodd Green Hat Consulting swydd amser llawn iddi.

Meddai Sharon Evans, “Rwy’n hapus iawn yn fy swydd gyda Green Hat. Mae wedi codi fy hyder eto ac wedi fy helpu’n fawr iawn. Rwy’n mwynhau mynd i’r gwaith ac rwy’n dysgu pethau newydd bob dydd.

Rwy’n teimlo bod gen i ddyfodol disglair yma. Ni allaf ganmol Gweithffyrdd+ ddigon am y gefnogaeth y mae wedi ei rhoi i mi. Mae’r gweithwyr yn wych a byddwn yn eu hargymell i unrhyw un sy’n bwriadu dychwelyd i’r gwaith.”

Meddai Ian James, “Mae Sharon yn aelod gwych o’r tîm a bydd ei rôl yn datblygu wrth i’r cwmni ehangu. Dyma ein tro cyntaf yn cyflogi rhywun drwy gyfle gwaith â thâl ac mae’n rhaid i mi ddweud ei fod wedi bod o fudd i ni. Helpodd Gweithffyrdd+ ni i ymchwilio ymgeiswyr a dewis y rhai cywir ar gyfer cyfweliadau, sydd wedi arbed arian ac ymdrech i ni, ac mae’n llawer gwell na dibynnu ar gyfweliadau’n unig. Mae Gweithffyrdd+ yn cynnig gwasanaeth gwych ac mae’r staff yn gweithio’n galed i gefnogi busnesau a chefnogi pobl ddi-waith. Bydden i’n argymell y gwasanaeth i unrhyw fusnes.”

Darganfyddwch fwy trwy gysylltu â'ch swyddfeydd lleol

Castell Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Abertawe