Gweithffyrdd+ yn helpu Adedayo i ddod o hyd i swydd

Bythefnos yn unig ar ôl i Adedayo gyrraedd o Nigeria i ymuno â’i wraig yn Abertawe, roedd wedi cofrestru gyda Gweithffyrdd+, y gwasanaeth sy’n helpu pobl i ddod o hyd i waith. Roedd Adedayo yn ysu am ddod o hyd i swydd i gefnogi ei deulu a dechrau bywyd newydd.

Roedd Adedayo, yr oedd ganddo gymhwyster mewn TG a phrofiad gwaith o Nigeria, yn gobeithio cael swydd mewn TG yng Nghymru. Fodd bynnag, nid oedd ei gymwysterau’n cael ei gydnabod yn y DU. Er gwaethaf hyn roedd Adedayo yn benderfynol o gael gwaith cyn gynted ag y gallai. Argymhellodd cyn-gyfranogwr Gweithffyrdd+ y gwasanaeth i Adedayo a chofrestrodd ar ei gyfer yn fuan ar ôl hynny. Neilltuodd Gweithffyrdd+ fentor i Adedayo i’w helpu i ddod o hyd i waith addas.

Fe wnaeth mentor Adedayo, Tom, ei helpu i ddatblygu ei CV, chwilio am swyddi a chwblhau ffurflenni cais. Sicrhaodd Tom hefyd y cyllid a oedd ei angen i sicrhau bod ei gymwysterau o Nigeria yn cael eu derbyn ar lefel gyfatebol yn y DU (ENIC).

Helpodd Tom Adedayo i wneud cais am swydd gyda Chyngor Dinas Abertawe a chyda hyfforddiant gan Tom, roedd Adedayo yn llwyddiannus a bydd e’n dechrau ar ei swydd newydd ym mis Chwefror.

Meddai Adedayo, sydd wrth ei fodd, “Mae Gweithffyrdd yn sefydliad cefnogol iawn ac roeddwn i’n teimlo eu bod wedi cadw llygad ar fy nghynnydd cyffredinol, fy lles emosiynol a fy mhroses o chwilio am swydd. I mi, mae hyn yn wych.”

Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Darganfyddwch fwy trwy gysylltu â'ch swyddfeydd lleol

Castell Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Abertawe