Mae Neil Houston sy’n 56 oed ac yn byw yn Abertawe, wedi gweithio fel clerc cynorthwyol ar gyfer CThEF ers 17 o flynyddoedd. Ar ôl gadael ei swydd, cafodd Neil anhawster dod o hyd i un arall. Roedd Neil yn dechrau teimlo’n ddigalon – nid oedd wedi gwneud cais am swydd ers blynyddoedd lawer ac roedd y broses ymgeisio’n heriol iddo. Cyfeiriwyd Neil at Gweithffyrdd+ gan ei hyfforddwr gwaith er mwyn ei helpu i ddod o hyd i swydd newydd. Bu Angela, un o fentoriaid Gweithffyrdd+, yn gweithio gydag ef ar sail un i un, gan ei gefnogi drwy’r holl broses ymgeisio. Roedd hyn yn cynnwys dod o hyd i swyddi y gallai mewn gwirionedd ymgeisio amdanynt, cwblhau datganiadau cefnogi, sicrhau bod y datganiad yn canolbwyntio ar rannau allweddol y swydd, tynnu sylw at sgiliau y gellid eu trosglwyddo, technegau cyfweliad ac addasu CV Neil o saith dudalen i ddwy dudalen.
Cafodd Neil ei annog a’i gefnogi gan Angela gyda’i gais a’i gyfweliad llwyddiannus ar gyfer swydd fel Cynorthwyydd Cywirdeb Academaidd ar gyfer Prifysgol Abertawe.
Meddai Neil, “Hoffwn ddiolch i fy mentor Gweithffyrdd+, Angela, am fy helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth. Rwy’n gwerthfawrogi bod Angela wedi ailysgrifennu fy CV ac wedi’i wneud yn fwy cryno a threulio’r amser yn edrych ar y disgrifiad swydd ar gyfer y rôl Cynorthwyydd Cywirdeb Academaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Penderfynais wneud cais am y swydd wag hon oherwydd roedd gan Angela ffydd ynof. Diolch i Angela am y cyngor ar gwblhau’r ffurflen gais ac am roi cyfweliad ffug i mi, gan dynnu sylw at yr hyn a aeth yn dda a’r hyn nad oedd wedi mynd cystal. Roedd yr adborth a roddodd i mi wedi fy helpu llawer i greu fy nodiadau fy hun i baratoi ar gyfer fy nghyfweliad ym Mhrifysgol Abertawe. Roeddwn i’n gallu ateb cwestiynau’n hyderus.
Roeddwn i wrth fy modd ac yn falch pan dderbyniais alwad ffôn yn hwyrach y diwrnod hwnnw’n cynnig y swydd i mi. Clywais fy mod wedi rhoi cyfweliad cryf. Rwy’n credu na fyddwn wedi gwneud hanner cystal yn fy nghyfweliad oni bai am gymorth Angela.”
Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
I gael gwybodaeth am sut i gael swydd, ewch i www.workways.wales/cy/