Roedd Hannah, 28 oed, sy’n byw yn Abertawe, wedi colli’i swydd, ei thŷ a’i hunan-barch. Nid oedd yn annisgwyl felly bod ei hiechyd corfforol a meddyliol wedi dioddef. Roedd yn gyfnod tywyll iawn i Hannah ond roedd hi’n benderfynol o gael ei bywyd yn ôl ar y trywydd iawn. Dechreuodd ei bywyd wella pan gyfeiriwyd Hannah gan Adran Gwaith a Phensiynau Treforys at Weithffyrdd+, y gwasanaeth sy’n darparu cefnogaeth 1-1 i helpu pobl i gael swyddi. Roedd Gweithffyrdd+ wedi darparu Mentor Cyflogaeth o’r enw Gemma a Swyddog Cyswllt Cyflogaeth o’r enw Adele i Hannah i’w helpu ar ei thaith i fywyd newydd. Mae Mentoriaid Cyflogaeth Gweithffyrdd+ yn darparu cefnogaeth 1-1 i helpu pobl i baratoi ar gyfer y gwaith ac mae Swyddogion Cyswllt Cyflogaeth yn gweithio’n agos gyda busnesau lleol i’w helpu i recriwtio cyfranogwyr Gweithffyrdd+ addas. Aeth Gemma ati i helpu Hannah i gael ei hyder yn ôl ac i feddwl am ba fath o waith fyddai’n addas iddi. Trefnodd Gemma i Weithffyrdd+ ariannu cwrs ECDL, sef cymhwyster TG a gydnabyddir yn rhyngwladol a luniwyd i roi’r sgiliau i ddysgwyr ddefnyddio cyfrifiadur yn hyderus ac yn effeithiol. Roedd Hannah wedi gweithio’n galed ac mae hi bellach wedi ennill y cymhwyster ECDL. Wrth weithio gydag Adele, cytunwyd mai’r ffordd ymlaen i Hannah oedd ei gosod ar un o’r cynlluniau Cyfle Gwaith â Thâl (CGTh) Gweithffyrdd+. Mae CGTh yn gyfle i gyfranogwr Gweithffyrdd+ weithio mewn busnes am hyd at 20 o wythnosau. Telir cyflog i’r person a ariennir yn llawn trwy Gweithffyrdd+. Byddai Hannah yn derbyn sgiliau gwaith a phrofiad gwerthfawr a fyddai’n ei helpu i gael cyflogaeth yn y dyfodol a byddai hefyd yn ennill cyflog. Byddai’r cyflogwr yn gallu penderfynu a fyddai Hannah yn addas ar gyfer ei fusnes, heb risg ariannol iddo ef ei hun. Daeth Adele a Gemma o hyd i gyfle addas i Hannah weithio mewn rôl weinyddol ar gyfer cwmni lleol, FPS Fire. Cynigwyd cyfweliad i Hannah ac aeth Gemma ati i’w helpu i baratoi gyda hyfforddiant cyfweliad ffug. Bu Hannah yn llwyddiannus a rhoddodd Gemma ac Adele CGTh ar waith i Hannah weithio gydag FPS Fire. Mae Hannah wedi mwynhau pob munud o’i swydd ac mae ei rheolwr llinell Joanna Kliczka yn hapus iawn gyda’i hagwedd, ei sgiliau a’i hymrwymiad. Mae FPS Fire bellach wedi cynnig swydd i Hannah a fydd yn dechrau ar ddiwedd y CGTh ar 17 Mehefin 2022.
Meddai Joanna Kliczka, FPS Fire, “Mae Hannah wedi profi ei bod hi’n ychwanegiad da iawn at ein tîm ac rydym yn falch o gynnig swydd iddi. Mae gwasanaeth Gweithffyrdd+ wedi bod yn wych, yn gyntaf wrth ddod o hyd i Hannah ar ein cyfer ac yna trwy gynnig y cyllid ar gyfer Cyfle Gwaith â Thâl. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n chwilio am swydd i weithio gyda Gweithffyrdd+ ac yn annog cyflogwyr i weithio gyda nhw ac archwilio’u dewisiadau ar gyfer CGTh.”
Meddai Hannah, “Mae fy hyder wedi cynyddu’n eithriadol ac rwy’n llawer hapusach. Dwi bellach yn teimlo bod gen i ddyfodol gwych a chyfeiriad cadarn mewn bywyd. Roedd Gweithffyrdd+ yn wych o ran sut roeddent wedi fy helpu a hoffwn ddiolch i Gemma ac Adele am eu cefnogaeth wych.”
Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.