Hyfforddiant Addysgu yn helpu Batool ar y llwybr i lwyddiant

Roedd Batool Raza, preswylydd o Geredigion, yn gweithio fel darlithydd Celf a Dylunio ym Mhacistan. Roedd Batool yn gobeithio y gallai ddefnyddio’i sgiliau, ei gwybodaeth a’i phrofiad i’w helpu i barhau â’i darlithio yng Nghymru. Fodd bynnag, nid oedd gan Batool gymwysterau addysgu na phrofiad gwaith yn y DU, ac roedd hyn yn ei hatal rhag gweithio yn sector addysg y DU.

Roedd angen i Batool gael cymhwyster addysgu yn y DU. Fel mam i ddau a’r prif ofalwr ar gyfer ei phlant, nid oedd Batool mewn sefyllfa ariannol i dalu am gwrs addysgu.

Cysylltodd Batool â Gweithffyrdd+, y gwasanaeth sy’n helpu pobl i ddod o hyd i waith drwy fentora un i un, hyfforddiant a ariennir a chyflwyniadau i gyflogwyr. Neilltuodd Gweithffyrdd+ Fentor Cyflogadwyedd i Batool, sef Alison, i’w helpu i ddatblygu sgiliau cyflogaeth a hefyd Swyddog Cyswllt Cyflogwyr, Catrin, i helpu i ddod o hyd i gyfleoedd iddi siarad â chyflogwyr.

Gyda phrofiad gwaith Batool mewn darlithio, y sector addysg oedd y dewis cyntaf ar gyfer cyfleoedd gwaith. Chwiliodd Gweithffyrdd+ am gwrs hyfforddi a fyddai’n helpu Batool i wneud cais am swyddi darlithio. Nodwyd cwrs hyfforddiant addysgu TAR ddwy flynedd ar ei chyfer ac roedd Gweithffyrdd+ wedi gallu ariannu’r cwrs. Trefnodd Gweithffyrdd+ hefyd i Batool addysgu sgrîn-brintio am dair awr yr wythnos yn Dysgu Bro, Dysgu Oedolion yn y Gymuned er mwyn cael profiad gwaith yn y DU.

Mae Batool bellach wedi cwblhau ei chwrs hyfforddiant addysgu TAR yn llwyddiannus ac wedi cael swydd, diolch i gefnogaeth Gweithffyrdd+.

Meddai Batool, “Rwyf wedi bod yn gweithio gyda New Directions fel athro cyflenwi ers i mi gwpla fy nghwrs TAR. Rwyf wedi gweithio ac wedi cael profiad o addysgu mewn ysgolion gwahanol fel Ysgol Gynradd Plascgrug, Penglais, Henry Richard, Ysgol Uwchradd Aberaeron, Ysgol y Borth ac Ysgol Padarn Sant. Rwyf hefyd wedi arddangos fy ngwaith celf yn yr arddangosfa ‘Ffoadur yn Aberystwyth’, y cefais gyfweliad gyda the BBC Art Show yn ei sgîl. Rwyf hefyd yn addysgu gweithdy paentio sidan yng nghanolfan y celfyddydau. Diolch Gweithfyrdd+ am eich cefnogaeth a’ch anogaeth. Rwy’n ceisio helpu’r gymuned cymaint â phosib a’i harwain y gorau y gallaf.”

Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. I gysylltu â’ch swyddfa leol www.workways.wales/cy/

 

Darganfyddwch fwy trwy gysylltu â'ch swyddfeydd lleol

Castell Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Abertawe