Lleoliad Perffaith a Swydd Berffaith!

Newidiodd fywyd Julia Thomas, preswylydd o Bort Talbot yn sylweddol pan ddioddefodd strôc a gwaedlif yr ymennydd. Roedd yn rhaid iddi adael ei swydd, a threuliodd y ddwy flynedd nesaf yn gwella. Yn 64 oed, nid oedd Julia’n meddwl y byddai’n dod o hyd i swydd arall, roedd hi’n teimlo’n bryderus ac roedd ei hyder yn isel iawn. Roedd Julia’n teimlo y byddai ei hoedran a pryderon ynghylch ei hiechyd yn ei rhwystro rhag cael swydd. Nid oedd am ddychwelyd i’w swydd flaenorol, felly roedd Julia’n gobeithio cael swydd rhan-amser y byddai wir yn gallu ei mwyhau.

Cysylltodd Julia â thîm Gweithffyrdd+ Castell-nedd Port Talbot, sy’n rhan o dîm Cyflogadwyedd CNPT.

Neilltuodd Gweithffyrdd+ Swyddog Cyswllt Cyflogwyr, Charlie Fulner, i weithio gyda Julia ar sail un i un. Yn gyntaf, aeth Charlie ati i helpu Julia i adennill ei hyder a’i pherswadio nad oedd hi’n rhy hen i weithio. Awgrymodd Charlie leoliad gwaith â thâl rhan-amser er mwyn helpu Julia i ddychwelyd i amgylchedd gwaith ac i fagu’i hyder. Lleoliad gwaith yw darpariaeth lle mae Gweithffyrdd+ yn cynnig ad-daliad i’r cyflogwr ar gyfer cyflog y gweithiwr.

Trefnwyd lleoliad yn Lloches Cathod Tŷ Nant. Mae Julia’n dwlu ar anifeiliaid ac roedd hi wedi gwirfoddoli yno yn y gorffennol, felly roedd hi’n hapus iawn i ymgymryd â rôl fwy cynhwysfawr ac ennill cyflog. Yn ystod y lleoliad gwaith, trefnodd Charlie hyfforddiant sgiliau TG i Julia, a ariannwyd gan Gweithffyrdd+.

Nesaf, dechreuodd Charlie archwilio opsiynau cyflogaeth parhaol. Dywedodd Julia y byddai’n hoffi gweithio ym maes gofal ac aeth Charlie ati i ddod o hyd i gyfleoedd addas iddi. Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cydlynu swyddi gwag ‘Cynorthwyydd Personol’ er mwyn cefnogi pobl yn y gymuned. Roedd Julia’n meddwl y byddai swydd fel CP yn gyfle gwych i helpu pobl eraill yr oedd angen cefnogaeth arnynt o ddydd i ddydd. Trefnodd Charlie Hyfforddiant Cymorth Cyntaf gan y byddai hyn o fantais i Julia mewn rôl CP. Rhoddodd Charlie gymorth i Julia gyda’r cais am y swydd a’i helpu i ymarfer ar gyfer cyfweliad. Er llawenydd i bawb roedd Julia’n llwyddiannus ac mae bellach yn gweithio fel CP rhan amser.

Meddai Julia, “Roeddwn i’n teimlo’n isel iawn, roedd fy hunan-gred ar chwâl. Roedd Charlie’n credu ynof fi, ac wedi fy helpu i gredu ynof fi fy hun eto. Ni allaf ddiolch i Gweithffyrdd+ a Charlie ddigon am y gefnogaeth wych maent wedi’i rhoi i mi. Byddwn yn dweud wrth unrhyw un sy’n heneiddio neu sydd wedi wynebu iechyd gwael, “daliwch ati, ffoniwch Gweithffyrdd+.”

I gael cymorth i ddod o hyd i hyfforddiant a ariennir, cyflogaeth neu brofiad gwaith â thâl, cysylltwch â’ch swyddfa Gweithffyrdd+ leol. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio fel CP a hoffech gael cefnogaeth wrth wneud cais, ffoniwch Gweithffyrdd+ Castell-nedd Port Talbot ar 01639 684250.

Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Darganfyddwch fwy trwy gysylltu â'ch swyddfeydd lleol

Castell Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Abertawe