Mae Little Welsh Deli’n tyfu ei dîm gyda chymorth gan Gweithffyrdd+

Mae Little Welsh Deli‘n cynhyrchu pasteiod o safon. Gofynnwyd i Gweithffyrdd+ eu helpu i ddod o hyd i weithiwr newydd. Un ymgeisydd a gyflwynwyd i’w ystyried oedd cyfranogwr a oedd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir. Roedd Gweithffyrdd+ wedi trefnu’r cyllid er mwyn i’r cyfranogwr hwn gyflawni cymhwyster hylendid bwyd a’i helpu i ddatblygu’i CV ac ennill sgiliau cyfweliad. Ariannodd Gweithffyrdd+ Gyfle Gwaith â Thâl ar ei gyfer yn Little Welsh Deli. Ar ddiwedd y Cyfle Gwaith â Thâl cynigiodd Little Welsh Deli swydd amser llawn i’r cyfranogwr.

Meddai Ryan Phillips, perchennog Little Welsh Deli, “Mae gan ein cyfranogwr Gweithffyrdd+ agwedd wych ac mae’n gwneud ymdrech arbennig i fod o gymorth. Mae bellach yn goruchwylio dau aelod o staff.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Gweithffyrdd+ am ein helpu ni i ddod o hyd iddo ac am

y Cyfle Gwaith â Thâl Gweithffyrdd+ yw ein galwad cyntaf pan fydd angen staff newydd arnom.”

Darganfyddwch fwy trwy gysylltu â'ch swyddfeydd lleol

Castell Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Abertawe