Peiriannydd sydd wedi ymddeol yn mwynhau helpu eraill yn ei swydd ym maes gofal

Symudodd Ronald Moffatt, sy’n 64 oed, i Gastell-nedd i ddechrau pennod newydd o’i fywyd. Ar ôl 35 mlynedd o weithio yn y sector peirianneg, roedd Ron wedi ymddeol. Wrth ymlacio a gwylio’r byd yn mynd heibio, sylweddolodd Ron ei fod yn colli’r drefn arferol a rhyngweithio cymdeithasol a ddaw yn sgîl gweithio mewn swydd. Penderfynodd Ron ei fod am gael swydd ran-amser newydd, rhywbeth gwahanol i’w rôl flaenorol.

Cyfeiriodd Cymru’n Gweithio Ron at dîm Gweithffyrdd+ Castell-nedd Port Talbot. Mae Gweithffyrdd+ yn helpu pobl i gael swyddi drwy gymorth un i un, hyfforddiant, profiad gwaith â thâl a chyflwyniadau i gyflogwyr.

Croesawodd Gweithffyrdd+ Ron a chlustnodi mentor iddo, Vicky.

Aeth Vicky ati i helpu Ron i ddatblygu ei sgiliau TG i’w helpu i ymgeisio am swyddi a dywedodd fod cyfleoedd rhan-amser yn gyffredin yn y sector lletygarwch. Trefnodd Vicky i Ron ymgymryd â hyfforddiant Barista, Cymorth Cyntaf a Diogelwch Bwyd ac fe’u hariannwyd gan Gweithffyrdd+. Cwblhaodd Ron nhw i gyd a nawr mae ganddo’r tystysgrifau.

Ar ôl ystyried, teimlai Ron nad lletygarwch oedd y cyfle yr oedd yn chwilio amdano.

Nesaf, awgrymodd Vicky weithio ym maes gofal fel Cynorthwyydd Personol wedi’i ariannu drwy Daliadau Uniongyrchol. Taliadau arian parod yw Taliadau Uniongyrchol a roddir i’r person y mae angen gofal arno gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, i’w alluogi i dalu am ei ofal a’i gefnogaeth ei hun yn lle bod y cyngor yn trefnu gwasanaethau ar ei gyfer.

Roedd rôl y Cynorthwyydd Personol yn apelio’n fawr at Ron a gofynnodd i Vicky ei helpu i wneud cais. Gyda chymorth Vicky, cafodd Ron ei gyfweld ar gyfer dwy swydd gofal a bu’n llwyddiannus yn y ddau gyfweliad.

Mae Ron bellach yn cefnogi dau o breswylwyr Castell-nedd Port Talbot ac yn cael ei gyflogi am 16 awr yr wythnos, yn union yr hyn yr oedd ei eisiau.

Meddai Ron, “Roedd Vicky yn wych, roedd hi’n arbennig. Mae’r rôl Cynorthwyydd Personol yn wahanol iawn i fy ngyrfa flaenorol ac mae’n newid mor gadarnhaol i mi. Mae rôl Cynorthwyydd Personol yn apelio at fy ochr ofalgar ac mae helpu pobl i fwynhau eu bywydau yn rhoi boddhad mawr i mi. Byddwn i’n dweud y dylai unrhyw un sydd am ddychwelyd i’r gwaith, waeth beth fo’u hoedran, roi galwad i Gweithffyrdd+”.

Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

 

Darganfyddwch fwy trwy gysylltu â'ch swyddfeydd lleol

Castell Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Abertawe