Pobl leol yn cael gwaith tymor hir gyda pheth help gan brosiect cyflogaeth Lidl

Mae’r prosiect Gweithffyrdd+, a gefnogir gan yr UE, wedi helpu tri chyfranogwr i ddychwelyd i gyflogaeth drwy ganfod gwaith iddynt yn siopau Lidl yng Nghastell-nedd a Phontardawe. Roedd 3 ohonynt yn ddi-waith am gyfnod sylweddol ond, drwy gefnogaeth Gweithffyrdd+, roeddent yn barod i ddychwelyd i’r farchnad lafur.

Mae Lidl ar fin agor siop newydd ym Mhontardawe y mis nesaf ac roedd nifer o swyddi gwag ar gael. Siaradodd Rheolwr Ardal Lidl, Ross Urwin, â Gweithffyrdd+ am recriwtio pobl leol. Trefnodd Gweithffyrdd+ ddiwrnod recriwtio yn y siop yng Nghastell-nedd lle dewiswyd ymgeiswyr i ddod i gyfweliadau. Aeth 12 ymlaen i wneud treialon gwaith yn siop Lidl Castell-nedd ac o ganlyniad cafodd 6 pherson eu recriwtio.

Derbyniodd cyfranogwyr amrywiaeth o gefnogaeth gan dîm Gweithffyrdd+, gan gynnwys cymorth gyda chwilio am swydd, help i ddatblygu CV, mynediad i hyfforddiant a phrofiad ar safleoedd.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyflawni amrywiaeth eang o rolau, gan gynnwys rheoli stoc, ariannwr, gweithredwr warws a gwasanaethau cwsmeriaid.

Mae Ross Urwin, Rheolwr Ardal Lidl, yn credu bod Gweithffyrdd+ yn chwarae rôl bwysig wrth helpu pobl ddi-waith i ganfod cyflogaeth addas.

Meddai, “Un o gryfderau Gweithffyrdd+ yw’r diwrnodau rhagflas maent yn eu cynnig. Roedd y sgiliau angenrheidiol gan rai ymgeiswyr ond nid oedd ganddynt hyder mewn cyfweliadau. Roedd Gweithffyrdd+ yn ein hannog i ystyried diwrnodau rhagflas yn y siop lle gallai darpar ymgeiswyr arddangos eu haddasrwydd i’r rôl a gallem weld eu sgiliau go iawn. Rwy’n gobeithio defnyddio Gweithffyrdd+ ar gyfer anghenion recriwtio Lidl yn y dyfodol.

Meddai, Dean Higgins, un o gyfranogwyr Gweithffyrdd+, “Heb gymorth Gweithffyrdd+, dwi ddim yn credu y byddwn wedi cael y swydd hon. Roedd fy mentor yn help mawr i fi, gan hybu fy hyder a’m hannog i ddilyn nifer o gyfleoedd. Gan fod cyflog rheolaidd gennyf bellach, bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fi a’m teulu.

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Ali Thomas, “Mae’n braf gweld y ffordd y mae prosiect Gweithffyrdd+ yn helpu pobl i gael gwaith, yn ogystal â bodloni anghenion cyflogwyr ar draws De-orllewin Cymru. Mae Gweithffyrdd+ wedi cael llwyddiant anhygoel yn yr hinsawdd economaidd bresennol oherwydd y perthnasoedd personol ardderchog sydd wedi’u meithrin rhwng staff y prosiect, cyfranogwyr a chyflogwyr yn y rhanbarth.”

Arweinir Gweithffyrdd+ gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ar y cyd â Chyngor Abertawe, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Ceredigion. Nod y prosiect, sy’n derbyn £7.4 miliwn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, yw mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal unigolion rhag cael swyddi.

Darganfyddwch fwy trwy gysylltu â'ch swyddfeydd lleol

Castell Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Abertawe