Ar ôl treulio pum mlynedd yn ddi-waith gydag iselder a gorbryder, roedd Rhodri’n teimlo bod ei fywyd ar stop. Roedd iechyd meddwl Rhodri’n wael iawn ac roedd dyddiau lle na allai adael ei gartref.
Heddiw mae gan Rhodri swydd amser llawn mae’n ei mwynhau oherwydd y gwaith mae’n ei wneud a’r rhyngweithio cymdeithasol â chydweithwyr. Mae’n boblogaidd yn y gwaith ac yn cael ei werthfawrogi gan y tîm rheoli, ac mae bywyd Rhodri wedi gwella’n sylweddol.
Yn 2018, cysylltodd Derek, tad Rhodri, â Gweithffyrdd+ i ofyn a allen nhw wneud unrhyw beth i helpu Rhodri i weithio tuag at wirfoddoli neu gyflogaeth. Darparodd Gweithffyrdd+ Fentor Cyflogaeth i Rhodri i weithio gydag ef ar sail un i un. Cytunodd Rhodri, ond ar y dechrau byddai’r cyswllt rhwng Gweithffyrdd+ a Rhodri trwy Derek. Ar ôl cyfnod o amser, gallai Derek gymryd cam yn ôl a byddai Rhodri’n dechrau siarad yn uniongyrchol ag Iain, mentor Gweithffyrdd+ Rhodri.
Cynlluniodd Iain a Rhodri broses bontio ysgafn i’r byd gwaith gyda gwirfoddoli ar frig yr agenda. Roedd Ymddiriedolaeth Glan yr Afon, menter gymdeithasol sy’n gweithredu’n agos at gartref Rhodri, yn chwilio am wirfoddolwyr a threfnodd Iain i Rhodri gwrdd â’r bobl sy’n rheoli’r prosiect. Roedd Rhodri’n gadarnhaol am y cyfle a threuliodd nifer o fisoedd hapus yn clirio tir ac yn cynnal llwybrau. Gyda’i hyder yn datblygu, roedd yn amser i Weithffyrdd+ helpu Rhodri i gymryd y cam mawr nesaf i gyflogaeth. Dechreuodd Carol, Swyddog Cysylltiadau Cyflogwr Gweithffyrdd+ chwilio am gyflogwyr posib i Rhodri.
Roedd Bev Parker, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ministry of Furniture, cwmni ym Mhort Talbot, wedi cysylltu â Carol i drafod cefnogaeth ar gyfer cyflogi Gweithredwr Cynhyrchu. Roedd Carol yn meddwl y byddai Rhodri’n addas ar gyfer y rôl hon.
I gefnogi MOF a Rhodri, trefnodd Carol i Gyfle Gwaith â Thâl (CGTh) Gweithffyrdd gael ei roi ar waith. Mae CGTh yn gyfle i gyfranogwr Gweithffyrdd+ weithio mewn busnes am hyd at 12 o wythnosau. Telir cyflog i’r person a ariennir yn llawn trwy Gweithffyrdd+. Byddai Rhodri’n derbyn sgiliau gwaith gwerthfawr a byddai hefyd yn ennill cyflog. Byddai MOF yn gallu penderfynu a fyddai Rhodri’n addas ar gyfer eu busnes, heb risg ariannol iddynt eu hunain.
Gweithiodd Rhodri’n galed yn ei waith a gwobrwywyd ei frwdfrydedd a’i agwedd gadarnhaol pan gynigiwyd swydd amser llawn iddo gan MOF fel Gweithredwr Cynhyrchu, swydd y mae Rhodri wedi’i dal ers mis Ebrill 2020.
Meddai Bev Parker, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ministry of Furniture, “Rydym yn mwynhau cefnogaeth Gweithffyrdd+ ac rydym yn ymddiried ynddynt i gyflwyno pobl addas ar gyfer y swyddi sydd gennym. Mae eu gwasanaeth CGTh yn ein galluogi ni i roi cyfle i bobl gyda chyfleoedd cyflogaeth prawf. Gallwn ystyried y gweithiwr dros gyfnod hir o amser. Rydym yn hapus iawn gyda Rhodri, mae ei agwedd a’i ymrwymiad tuag at y rôl yn wych ac mae’n cyd-dynnu’n dda â’r tîm. Byddwn yn argymell i unrhyw gyflogwr gysylltu â Gweithffyrdd+.”
Os ydych chi’n gyflogwr a hoffai archwilio’r cyfleoedd ar gyfer CGTh Gweithffyrdd+ a chefnogaeth recriwtio arall, ewch i www.workways.wales/cy/ i gael manylion cyswllt ar gyfer eich swyddfa agosaf.