Swydd newydd, dechreuad newydd i Jason

Mae salwch yn aml yn rhywbeth annisgwyl, a gall newid bywyd person yn ddramatig. Roedd gan Jason Hislop, preswylydd o Gastell-nedd, yrfa lwyddiannus fel athro, a bu’n gweithio fel Pennaeth Addysg Gorfforol am dros ddegawd Roedd gan Jason yrfa lwyddiannus o’i flaen. Yna, dechreuodd pethau waethygu i Jason ar ôl iddo gael ei ddiagnosio â Sarcoidosis. Clefyd awto-imiwn prin yw sarcoidosis a all achosi blinder a chwyddo poenus yn y cymalau. Effeithiwyd ar iechyd Jason yn fawr oherwydd y clefyd hwn, gan achosi straen a phryder iddo, i’r graddau y cafodd ei ddiagnosio’n hwyrach ag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). Dechreuodd fywyd Jason ymddatod wrth iddo frwydro yn erbyn symptomau’r clefyd a’r PTSD. Gadawodd Jason ei swydd a daeth ei briodas i ben. Roedd Jason yn teimlo’n is nag erioed, roedd e’n dioddef o iselder difrifol ac roedd angen cefnogaeth arno i gael ei fywyd yn ôl ar y trywydd iawn. Cafodd ei gefnogi’n bersonol gan sawl sefydliad, ond o ran ei yrfa, fe’i cefnogwyd gan wasanaeth cefnogi Gweithffyrdd+. Er gwaetha’r cyfnod clo ar draws y DU, cysylltodd Jason â Gweithffyrdd+. Neilltuodd Gweithffyrdd+ fentor iddo, Neil Sullivan, i weithio gydag ef ar sail un i un dros WhatsApp ac ar apiau rhannu eraill.

Dechreuodd Neil weithio gyda Jason i’w helpu i fagu hyder a chanolbwyntio ar beth y dylai ei gamau nesaf fod. Er bod Jason yn dwlu ar ddysgu mewn ysgolion, roedd e’n teimlo bod angen dechreuad newydd arno. Argymhellodd Neil y dylai Jason ddatblygu’i sgiliau er mwyn rhoi opsiynau pellach iddo. Nodwyd cwrs hyfforddi ar ei gyfer, sef ‘Marchnata a’r Cyfryngau’, a thalodd Gweithffyrdd+ am gost y cwrs. Cwblhaodd Jason y cwrs ac enillodd ei dystysgrif. Mae Jason yn gobeithio sefydlu busnes yn y dyfodol, ac roedd y cwrs marchnata’n hanfodol ar gyfer hyn. Nesaf, cafodd Jason gymorth gan Neil i ddod o hyd i swydd addas a dychwelyd i gyflogaeth amser llawn unwaith eto. Galwodd Neil ar Charlie, un o Swyddogion Cyswllt Cyflogaeth Gweithffyrdd+. Rôl Charlie yn y gwasanaeth yw cefnogi cyflogwyr a’u helpu i recriwtio staff priodol o’r sylfaen o bobl y mae Gweithffyrdd+ yn eu cefnogi. Aeth Charlie ati i ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer Jason yn syth. Un ohonynt oedd rôl ‘Gweithiwr Cefnogi Gwydnwch Dynion’ gyda menter gymdeithasol Castell-nedd Port Talbot, ‘Motiv-8.’ Mal’s Marauders oedd yn cynnig y rôl gweithiwr cefnogi gwydnwch dynion, a chafodd cais Jason ei ddewis ar gyfer cyfweliad. Yn y cyfamser, roedd Neil wedi argymell swydd drwy Indeed, sef ‘hyfforddwr a mentor perfformiad’ – ymgeisiodd Jason am y swydd a bu’n llwyddiannus yn ei gyfweliad. Mae bellach yn hapus dros ben yn gweithio i gwmni o’r enw Motiv8.

Helpwyd Jason i baratoi ar gyfer y cyfweliad gan Neil a Charlie, ac a bu’n llwyddiannus – mae bellach wedi dechrau ar gontract tri mis i helpu i gefnogi cyn-droseddwyr.

Meddai Jason. “Gall bywyd eich gadael ar y clwt weithiau, a gall eich bywyd gwympo’n ddarnau. Roedd Gweithffyrdd+ yno i fy helpu i fagu hyder ac i roi cefnogaeth ymarferol, er gwaethaf COVID-19. Byddwn yn eu hargymell i unrhyw un sydd am ddychwelyd i gyflogaeth.”

Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae Gweithffyrdd+ ar gael yng Nghastell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion.

Darganfyddwch fwy trwy gysylltu â'ch swyddfeydd lleol

Castell Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Abertawe