Roedd Toni, preswylydd 46 oed o Abertawe, yn gweithio mewn siop ddillad adnabyddus ond collodd ei swydd yn ystod cyfnod clo COVID. Cafodd diweithdra, yn ogystal ag ansicrwydd y pandemig, effaith fawr ar iechyd meddwl Toni. Roedd Toni yn bryderus ac wedi colli hyder, ac roedd hi’n meddwl am ei chamau nesaf. Manwerthu oedd yr ateb amlwg, ond teimlodd Toni fod y sector hwn wedi ei siomi. Heb unrhyw gymwysterau a chyda phrofiad gwaith yn y maes manwerthu yn unig, roedd Toni yn meddwl taw dyma oedd yr unig opsiwn iddi.
Fe’i cyfeiriwyd i Gweithffyrdd+, y gwasanaeth sy’n helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth. Gwnaeth Gweithffyrdd+ ddarparu Mentor Cyflogaeth i Toni, sef Gemma, er mwyn ei helpu i baratoi i ddod o hyd i swyddi gyda mentora un i un a hyfforddiant, a hefyd Swyddog Cyflogaeth, Adele, er mwyn ei chyflwyno i gyflogwyr. Roedd Toni eisiau swydd newydd ac roedd gweithio mewn swyddfa ar frig ei rhestr. Fodd bynnag, nid oedd gan Toni y profiad, yr hyfforddiant na’r cymwysterau perthnasol ar gyfer y rôl hon.
Ceisiodd Gemma ac Adele ddod o hyd i gyrsiau hyfforddi priodol ar gyfer gweithio mewn swyddfa. Daethpwyd o hyd i ddau gwrs, sef cyflwyniad i Windows, y rhyngrwyd, e-byst a Microsoft Office a chwrs am sut i gymryd cofnodion mewn cyfarfodydd. Ariannwyd y ddau gwrs hyn gan Gweithffyrdd+. Wrth i ddyddiadau’r hyfforddiant nesáu, roedd lefelau pryder Toni yn cynyddu. Fodd bynnag, gyda chefnogaeth Gemma, llwyddodd Toni i basio’r profion ar gyfer y ddau gwrs. Mae bellach ganddi gymwysterau gwaith swyddfa.
Y peth nesaf oedd dod o hyd i brofiad gwaith ar gyfer Toni. Sicrhaodd Gemma ac Adele gyllid gan Gweithffyrdd+ ar gyfer ‘cyfle gwaith am dâl’. Mae cyfle gwaith am dâl yn wasanaeth y mae Gweithffyrdd+ yn ei ariannu. Mae’n galluogi busnesau neu fentrau cymdeithasol i gyflogi cyfranogwr Gweithffyrdd+ am hyd at 12 wythnos, gyda Gweithffyrdd+ yn talu cyflog y gweithiwr. Mae’r gweithiwr yn cael profiad gwaith a datblygiad yn y swydd ac mae’r cyflogwr yn cael gweithio gyda gweithiwr posib heb unrhyw risgiau ariannol.
Chwiliodd Gemma ac Adele am gyflogwyr posib a oedd yn cynnig cyfle addas mewn swyddfa. Roedd Cyngor Dinas Abertawe’n chwilio am Gynorthwy-ydd Ariannu. Cysylltodd Gweithffyrdd+ â’r cyngor a threfnwyd cyfweliad. Gyda’r cyfweliad yn nesáu, roedd angen cefnogaeth Gemma ar Toni er mwyn iddi reoli ei phryder. Helpodd Gemma drwy gynnal ffug gyfweliadau gyda Toni a holi cwestiynau a oedd yn debygol o gael eu gofyn. Prynodd Gweithffyrdd+ ddillad cyfweliad newydd i Toni i’w helpu i wneud argraff broffesiynol. Llwyddodd Toni i wneud argraff ar y panel yn y cyfweliad, a chynigiodd Gweithffyrdd+ gyfle gwaith am dâl i Gyngor Dinas Abertawe a Toni. Roedd Toni yn ansicr i ddechrau, ond ar ôl ymgartrefu roedd hi’n mwynhau ei rôl. Cafodd Cyngor Dinas Abertawe gyfle i weithio gyda Toni er mwyn penderfynu ar ei haddasrwydd ar gyfer y rôl, ac ar ddiwedd y cyfle gwaith am dâl roedd Toni wedi ennill profiadau a sgiliau newydd a fyddai’n ei chefnogi gyda cheisiadau yn y dyfodol. Hysbysebwyd swydd amser llawn am Gynorthwy-ydd Ariannu Allanol, ac ynghyd ag ymgeiswyr eraill, cyflwynodd Toni gais am y swydd. Gyda chymorth Gemma, llwyddodd Toni i wneud argraff gyda’i chais ac yn ystod y cyfweliadau. Cynigiwyd y swydd i Toni, ac wrth gwrs roedd hi’n hapus i’w derbyn.
Meddai Toni, “Ni allwn fod wedi gwneud hyn heb Gweithffyrdd+. Maen nhw wedi bod yn wych. Maen nhw wedi fy helpu gyda phethau ymarferol fel cyrsiau hyfforddiant a chyllid ond maen nhw hefyd wedi fy helpu i fagu hyder. Llwyddais i gael fy swydd oherwydd eu bod nhw wedi fy nghyflwyno i’r swydd ac wedi fy helpu gyda chyllid. Alla’ i ddim diolch digon iddyn nhw a byddwn yn eu hargymell i unrhyw un sy’n chwilio am ddechreuad newydd.”
Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.