Y gwirfoddolwyr mwyaf smart yn y dref – dyna honiad aelodau’r tîm yng Nghanolfan Dreftadaeth Doc Penfro, diolch i bartneriaeth gyda phrosiect Gweithffyrdd+.
Mae Gweithffyrdd+, a gynhelir gan Gyngor Sir Penfro, yn mwynhau perthnasoedd agos â’r sector gwirfoddol ac mae’r Ganolfan Dreftadaeth yn gysylltiad llwyddiannus iawn.
Un o wirfoddolwyr y ganolfan yw Wayne Robbins a ymunodd â Gweithffyrdd+ ym mis Rhagfyr 2019. Fel gofalwr roedd yn chwilio am gyrsiau hyfforddi i’w hychwanegu at ei CV er mwyn paratoi i ddychwelyd i’r gwaith, ynghyd â phrofiadau gwirfoddoli. Yn ystod ei amser gyda Gweithffyrdd+, llwyddodd Wayne i gwblhau nifer o gyrsiau gan gynnwys ei dystysgrif hylendid bwyd, magu hyder, gyrru bysus mini ac aeth ar gyrsiau Sir Benfro yn Dysgu.
Ar ôl bod ar gwrs hanes lleol, ymunodd Wayne â gwirfoddolwyr y Ganolfan Dreftadaeth lle daeth yn aelod ffyddlon, gweithgar a gwerthfawr o’r tîm yn gyflym, gan weithio yn y siop goffi a helpu’r ymwelwyr i ddysgu am hanes y gymuned.
Mae Wayne yn parhau i weithio’n agos gyda’i Fentor Cyflogaeth Gweithffyrdd, Andrea Howard Lewis, a phan ddaeth yr amser i’r gwirfoddolwyr gael gwisg newydd, roedd Gweithffyrdd+ yn hapus i ariannu’r gost fel rhan o’r berthynas waith agos barhaus ag Ymddiriedaeth Dreftadaeth Doc Penfro.
Roedd y gwisgoedd newydd yn cynnwys cnuoedd, crysau polo, ffedogau caffi a siacedi gwelededd uchel gyda logos newydd yr Ymddiriedaeth Dreftadaeth.
Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.