Daeth Gillian Davies, 57 oed o Hwlffordd, i Gweithffyrdd+ ar ôl iddi golli ei swydd fel derbynnydd mewn cwmni ceir lleol. Roedd Gillian wedi bod yn gweithio yno ers pedair blynedd ac roedd yn disgwyl gweithio yno nes ei bod yn ymddeol. Fel nifer o fusnesau, roedd ei chyflogwr yn wynebu trafferthion oherwydd effaith ariannol COVID.
Cafwyd effaith negyddol ar hunanhyder Gillian oherwydd ei bod wedi colli’i swydd ac roedd yn pryderu na fyddai’n gallu dod o hyd i swydd arall yn ei hardal leol. Oherwydd ei hunanamheuaeth a’i phryder, roedd Gillian yn teimlo dan straen a dechreuodd gwestiynu pa mor bwysig oedd ei sgiliau. Mae angen i Gillian wisgo cymorth clyw hefyd ac roedd hi’n ystyried pa effaith y gallai hyn ei chael ar ei chyfleoedd gwaith yn y dyfodol.
Neilltuodd Gweithffyrdd+ Fentor a Swyddog Cyswllt Cyflogaeth i Gillian er mwyn ei helpu i gael ei bywyd ar y trywydd iawn unwaith eto. Mae Mentoriaid Gweithffyrdd+ yn gweithio gyda phobl ddi-waith i’w helpu i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i baratoi i gael swydd. Mae hyn yn cynnwys gwella hyder, datblygu sgiliau, chwilio am swyddi, technegau cyfweliad a hyfforddiant a ariennir. Mae Swyddogion Cyswllt Cyflogaeth yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr lleol a gallant argymell cyfranogwyr Gweithffyrdd+ ar gyfer cyfweliadau swydd. Gall y rhain gynnwys swyddi nad ydynt yn cael eu hysbysebu.
Oherwydd cyfyngiadau COVID, cynhaliwyd cyfarfodydd cymorth Gillian ar-lein a thros y ffôn, ond nid oedd hynny’n broblem gan fod Gweithffyrdd+ yn gallu rhoi cefnogaeth drwy amrywiaeth o gyfryngau.
Yr her gyntaf oedd helpu Gillian i adennill ei hyder. Gwnaeth Gweithffyrdd+ ei helpu i nodi’r sgiliau sydd ganddi a ble y gallai ddefnyddio’r sgiliau hyn. Nodwyd y mathau o swyddi a fyddai’n addas a chafodd cryfderau Gillian eu cydweddu â’r manyleb person. Sylwodd Gillian y gallai gwneud ceisiadau am swyddi penodol a daeth yn fwy hyderus o lawer.
Helpodd Tîm Gweithffyrdd+ Gillian i greu CVs a llythyrau eglurhaol ar gyfer sectorau gwahanol. Gwnaethant hefyd anfon negeseuon testun gyda swyddi posib i’w hystyried.
Nid oedd Gillian erioed wedi bod i gyfweliad ar-lein ac roedd yn ymwybodol y gallai cyflogwr ddewis y modd hwn o gynnal cyfweliadau. Felly, er mwyn ei helpu i baratoi, cynhaliodd Gweithffyrdd+ gyfweliad ffug â hi dros WhatsApp. Pan ddechreuodd Gillian gyflwyno ceisiadau am swyddi gyda chefnogaeth Gweithffyrdd+, fe’i gwahoddwyd i gyfweliadau mewn sectorau gwahanol. Cyn pob cyfweliad, ailddarllenodd ei chais gyda’i Swyddog Cyswllt Cyflogaeth ac anfonwyd dolenni i fideos YouTube a thiwtorialau ati dros e-bost er mwyn iddi ymchwilio i’r sectorau hynny.
Roedd Gillian yn gwerthfawrogi cael negeseuon o gefnogaeth ar ei ffôn ac roedd cadw mewn cysylltiad yn ei helpu i fod yn frwdfrydig o hyd pan roedd yn aros am newyddion am swyddi.
Er llawenydd i bawb, nid oedd yn hir cyn i Gillian gael swydd fel derbynnydd yn ei meddygfa leol – swydd y mae’n ei mwynhau’n fawr.
“Roedd colli fy swydd wedi fy siomi’n fawr, ond roedd cefnogaeth Gweithffyrdd+ yn wych. Roeddwn wedi colli hyder yn fy hun, ac er fy mod wedi derbyn geirda gwych gan fy hen gyflogwr, nid oedd hynny wedi fy mharatoi ar gyfer dychwelyd i’r farchnad waith. Gwnaeth fy Mentor a fy Swyddog Cyswllt Cyflogaeth sicrhau fy mod i’n gwybod sut i strwythuro’r broses chwilio am swyddi a llunio CV. Ar ôl dysgu sut i lunio fy CV ac ymarfer ar gyfer cyfweliadau am naw wythnos, des i’n fwy hyderus ac rwy’n gweithio eto erbyn hyn. Mae gen i swydd sy’n addas ar fy nghyfer ac rwy’n teimlo’n hyderus a bod gen i bwrpas unwaith eto. Oes, mae angen incwm ar bawb ond mae angen help ar bawb weithiau, ac un o’r penderfyniadau gorau wnes i oedd ffonio Gweithffyrdd+. Diolch i fy ‘merched gwych’; heb eu cefnogaeth, byddwn i’n dal i chwilio am fy hyder o hyd!”
Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.